Y mae'n amlwg oddi wrth y ysgrifau ac oddi wrth bregeth angladdol Edward Samuel - Pregeth ynghylch gofalon bydol a bregethwyd yn Egluys Llangywer, yr ail dy o fis Mai 1720, ar gladdedigaeth Mr. Robert Wynne, diweddar Vicar Gwyddwern (Caerlleon, 1731) - fod y Robert Wynne hwn yn ficer Gwyddelwern. Yr anhawster ynglŷn ag ef ydyw ei fod yn cael ei alw hefyd mewn un llawysgrif (Peniarth MS 121 ) yn offeiriad Llanuwchllyn a bod Foster (Alumni Oxonienses) yn dywedyd i'r canghellor Robert Wynne (gweler dan ' Wynne, William ') gael ei wneuthur yn rheithor Llanuwchllyn yn 1691 ac yn ficer Gwyddelwern yn 1702; y mae'n bosibl, wrth gwrs, i Foster gymysgu rhwng y changhellor a'r clerigwr a oedd hefyd yn fardd. Dywedir i'r canghellor fyw hyd 1743 eithr y mae'n almwg, oddi wrth bregeth Edward Samuel, i'r Robert Wynne arall farw yn 1720; gellir nodi hefyd fod Samuel yn niwedd ei bregeth yn cyfeirio at 'Ganiadau Cywreinddoeth' y gŵr y mae'n ei goffau. Y mae D. R. Thomas (Hist. of the Diocese of St. Asaph) fel pe'n gwahaniaethu rhwng y ddau Robert Wynne : o dan Gwyddelwern, 1713-20, rhydd 'Robert Wynne son of Rees Wynne of Eynant, Montgomeryshire,' ac o dan Llanuwchllyn, 1690-1713, 'Robert Wynne, M.A., Fellow of Jesus College, Oxford.'
Ceir dwy gerdd gan Robert Wynne, ficer Gwyddelwern, yn Blodeu-Gerdd, 1759, sef 'Haf Gân yn amser Heddwch,' a ysgrifennwyd yn 1712, a 'Marwnad ar ôl y Frenhines Ann' (a fu farw 1 Awst 1714). Ceir englynion beddargraff ganddo - i Huw Morys, 'Siôn Dafydd Lâs,' a John Maesmor o Faesmor; 'Cerdd tros Mr. Andro Thelwall i ofyn Coed att wneythyr certwyn gan ysgwier Salesbyry o Rug'; 'Cywydd i ofyn ceffyl i Siôn Lloyd o Aberllyfeni ysgwier'; 'Cywydd i ofyn cafn pysgotta tros Harry bynner i Nathaniel Morrys o drefedryd'; '6 englyn i Peter Maurice … am daeru nad dawn Duw yw awenydd, ond y gellid ei chwmpasu wrth ysgolheictod.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mab Edward Wynne, Plasnewydd, Llangywer. Dichon mai ef oedd y Robert Wynne 'of Merioneth' a dderbyniwyd fel 'sizar' yng ngholeg y Frenhines, Caergrawnt, 28 Mehefin 1676, ymaelododd yn 1676, B.A., 1679-1680. Ordeiniwyd yn offeiriad gan Humphrey Lloyd, esgob Bangor, 31 Mawrth 1681; bu'n gurad Llangywer dros y cyfnod 1681-1685, onid cynt a chwedyn. Pan gafodd reithoriaeth Llanuwchllyn gan William Lloyd esgob Llanelwy yn 1681, daliwyd ef yn rhwydwaith canlyniadau cais penderfynol yr esgob i ad-ennill y nawdd a gipiasai Prysiaid Plas Iolyn oddiar esgobion Llanelwy (gweler o dan PRYS, ELIS. Bu cyfres o achosion yn llysoedd Meirion, a Sir Amwythig, a cher bron y siecr o'r herwydd. Yng nghwrs yr ymgyfreithio bu Thomas Prys, mab Peter Prys, Cynllwyd, o dan gerydd Tŷ'r Arglwyddi, a'i fygwth â cherydd cyffelyb yn Nhŷ'r Cyffredin am dorri braint yn 1690. Eto yn Sesiwn Fawr Meirion yn 1694 llwyddodd i droi Robert Wynne allan. Drwy briodi ei chwaer, Judith, yr oedd Robert Wynne yn frawd-yng-nghyfraith iddo. Erbyn hyn, Edward Jones, gŵr haws ei drin, ydoedd esgob Llanelwy, ond er tynnu'r cymorth esgobol yn ôl oddiwrth yr achos parhawyd i alw Wynne fel rheithor Llanuwchllyn hyd ei farw i ofwyon yr esgob. Cafodd ficeriaeth Gwyddelwern yn 1702, ond ni fu ei le yno yn gwbl esmwyth chwaith. Yn 1710 dywedir ei fod yn ei dal o dan atafaeliad, a rhwng 1713 a 1719 y mae rhestri'r offeiriaid a elwid i'r Gofwyon yn anwadalu rhwng teitl ficer a churad yn ei achos ef. Claddwyd ef yn Llangywer, 2 Mai 1720, ac Edward Samuel a bregethodd yn ei angladd. Argr. dwy o'i gerddi yn Blodeu-Gerdd Cymry, 1759, ac erys eraill mewn llawysgrif (yn arbennig Peniarth MS 121 ), yn cynnwys marwnad a beddargraffau i Huw Morys a John Davies (Siôn Dafydd Lâs).
Bu ei fab EDWARD WYNNE (1685 - 1745) hefyd yn ficer Gwyddelwern o 1724 hyd ei farw. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan John Evans, esgob Bangor, 17 Medi 1710, ac yn offeiriad gan John Wynne, esgob Llanelwy, 21 Medi 1718. Amdano ef y dywedodd John Wynne arall yn ei adroddiad ar ei ddeoniaeth yn 1729 ' he has been of neither University, and yet can dextrously uncork a Bottle as any veteran sott in the city of Oxford '. Gan ei dad y dysgodd y gamp hon. Claddwyd ef yng Ngwyddelwern, 6 Tachwedd 1745, ac ymddiriedwyd gweinyddiad ei ystad i John Lloyd, Dolyglesyn, Corwen, i'r hwn yr oedd arno'r ddyled drymaf. Y mae'r englynion a ganodd a'r rhai a ganwyd iddo yn eisteddfod y Bala yn 1738, yn dangos iddo yntau etifeddu hefyd ddawn farddol ei dad a'i gyfeillgarwch â beirdd.
Rhaid cywiro Almuni Oxon. o dan Robert Wynne. Daliai tri o'r enw fywiolaethau yn esgobaeth Llanelwy y pryd hwn - y ddau arall oedd Robert Wynne, D.D., canghellor yr esgobaeth, a Robert Wynne, M.A., rheithor yr Hôb.
Y mae Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, yn gymysglyd yn ei baragraff ar Robert Wynne. Ysgrifenna rheithor Llangywer fod pedair o feddfeini Wyniaid Plasnewydd (Tŷ-cerrig heddiw) yn y fynwent, ond fod yr arysgrifau perthnasol wedi diflannu, a bod y cofrestr am gladdu Robert Wynne ar goll.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.