Ganwyd Rachel Thomas yn Gwyn Street, Yr Alltwen, plwyf Cilybebyll, ar 10 Chwefror 1905 yn ferch i Emily Thomas (1884-1955), morwyn. Fe'i magwyd gan ei modryb, Mary Roberts (ganwyd Thomas, 1875-1928) a'i gŵr, David Roberts (1866-1928) gweithiwr tun a glöwr. Fe'i magwyd yng nghwmni plant Mary a David, sef Llewelyn (1897-1977?) masnachwr, Richard (1899-1970) gweithiwr aloi a ddaeth yn gynghorydd ac yn ynad heddwch ym mhlwyf Ynys-y-mond, Hannah Mary (1906-1970) a David William (1914-1989), ar aelwyd 11 Gwyn Street, Yr Alltwen, ac o 1918 ymlaen ar fferm Tyle Coch, Ynys-y-mond. Arddelodd y cyfenw Roberts tan ei phriodas er na chafodd ei mabwysiadu'n swyddogol gan Mary a David.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Yr Alltwen ac yn Ysgol Sirol Ystalyfera cyn cael ei derbyn i hyfforddi yn athrawes yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe, ond nid aeth yno i astudio oherwydd tlodi'r teulu. Yn hytrach, gweithiodd am gyfnod fel athrawes heb dystysgrif yn Ysgol Ferched Abercerdin, Gilfach Goch, ac yna yn Ysgol Rhos, Pontardawe, pan ddychwelodd i'r Alltwen i ofalu am Mary a David Roberts yn eu gwaeledd. Ar 18 Awst 1931 priododd â Howell 'Hywel' John Thomas (1901-1964), mab fferm o Crai, sir Frycheiniog, a hyfforddodd yn athro ac a fu'n brifathro cyntaf Ysgol Eglwys Wen, Caerdydd. Ymgartrefodd y ddau yn Tyle Coch, Y Goedwig, Rhiwbeina, ym 1933 a ganwyd iddynt un ferch, Delyth Mariel (1937-2006). Bu Rachel Thomas yn aelod ffyddlon, ac yn ddiacon am gyfnod, o Eglwys Annibynnol Minny Street, Caerdydd a'r capel hwn fu'n gyfrifol am ei chyflwyno i'r byd fel perfformwraig.
Yr oedd Rachel Thomas yn actores amryddawn a fu'n perfformio ar lwyfannau a sgriniau Cymru a'r byd am dros drigain mlynedd. Er iddi fod yn aelod ffyddlon o'r Band of Hope yn Yr Alltwen, yn gystadleuydd brwd mewn eisteddfodau bach lleol yng Nghwm Tawe ac yn perfformio am flynyddoedd fel rhan o gymdeithasau drama amaturaidd lleol, daeth i sylw cenedlaethol pan ddarllenodd wers mewn gwasanaeth yn Eglwys Minny Street a ddarlledwyd ar radio'r BBC tua diwedd 1933. Yn sgil y darllediad hwn, a enynnodd chwilfrydedd nifer o'r cyhoedd yn llais y wraig ifanc o Gaerdydd, fe'i gwahoddwyd i gyfweliad gan Sam Jones, cynhyrchydd gyda'r BBC, a'i chastio ym 1934 yn nrama gomedi radio Gymraeg gyntaf y Gorfforaeth, sef Y Practis gan Leyshon Williams, gyda Clydach Thomas, Haydn Davies a Gunstone Jones yn chwarae'r prif rannau eraill.
Yn ystod y 1930au ymddangosodd mewn amrywiaeth o ddramâu llwyfan, gan gynnwys fersiwn Cymraeg o nofel Jack Jones, Land of My Fathers, tan gyfarwyddyd Kitchener Davies, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938, a bu ar daith gyda'r Principality Players ym 1939 yn llwyfannu'r fersiwn Saesneg. Bu hefyd yn weithgar ar donfeddi'r radio, megis yn Choir Practice: A storm in a Welsh teacup gan Cliff Gordon, a ddarlledwyd o Maida Vale ym 1946, gydag Ivor Novello yn y brif ran fel arweinydd y côr cwerylgar, a Glynis Johns a Mervyn Johns hefyd yn rhan o'r cast.
Ym 1939 ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, The Proud Valley (Tennyson, 1939) lle y'i gwelwyd am y tro cyntaf fel y Fam Gymreig stoicaidd, aberthgar a gofalus a ddaethai'n symbol o'r cymunedau glofaol. Daeth i fod yn bortread eiconig a ddylanwadodd nid yn unig ar berfformiadau diweddarach o gymeriadau cyffelyb, ond hefyd ar y modd y dychmygwyd y Gymraes famol gan genedlaethau o Gymry a chynulleidfaoedd rhyngwladol wedi hynny. Ymddangosodd yn The Proud Valley ochr yn ochr â Paul Robeson, y canwr, yr actor a chyfaill cymunedau glofaol Cymru.
Yn sgil llwyddiant ei phortread syml ond dirdynnol yn y ffilm hon, ni fu'n brin o waith, ac ymddangosodd mewn rolau tebyg, fel y Fam Gymreig ddewr, yn Blue Scar (Jill Craigie, 1949), David (Paul Dickson, 1950) a Valley of Song (Gilbert Gunn, 1953), sef fersiwn ffilm o'r ddrama radio Choir Practice, y tro hwn gyda Clifford Evans yn rôl yr arweinydd.
Er iddi gael gwahoddiad i chwarae rhan y fam yn ffilm arobryn John Ford, How Green Was My Valley (1941), oherwydd y cyfyngiadau a roddwyd ar longau teithwyr yn croesi Môr yr Iwerydd yn sgil y bygythiad o du llongau tanfor lluoedd yr Almaen yn ystod blynyddoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd, methodd â theithio i America i fynychu prawf sgrin.
Wrth i gyfrwng y teledu feithrin cynulleidfa ffyddlon o ganol y 1950au ymlaen, fe'i gwelid yn gyson ar y sgrin fach mewn cynyrchiadau Saesneg a Chymraeg. Ymddangosodd mewn dramâu megis Y Dieithryn (awdur D.T. Davies, cynh. Dafydd Gruffydd, BBC, 1957), After the Funeral (awdur Alun Owen, cyf. Ted Kotcheff, ITV, 1960) ac Y Darn Arian (trosiad John Eilian o waith Arthur O. Roberts, 1961). Cawsai ei chyfle cyntaf i berfformio mewn drama deledu pan ymddangosodd ochr yn ochr â Stanley Baker a Donald Houston yn y fersiwn teledu byw o Choir Practice (awdur Cliff Gordon, cynh. Michael Mills) a ddarlledwyd o Alexandra Palace, Llundain, ym 1949. Ond ni recordiwyd y darllediad hwn a chollwyd cofnod parhaol o'i pherfformiad. Er hynny, darparodd y sgrin fach gyfle iddi droi ei llaw at bortreadu Beth Morgan o nofel Richard Llewellyn pan ymddangosodd gydag Eynon Evans yng nghynhyrchiad Dafydd Gruffydd a'r BBC o How Green Was My Valley ym 1960. Trist nodi i hwn fod yn gynhyrchiad arall a gollwyd o archifau'r BBC.
Gwelir yn ystod ei gyrfa ei thuedd bersonol, a hefyd natur y cyfleoedd gwaith a gyflwynid iddi, i ddychwelyd at destunau a dramâu penodol. Ymddangosodd droeon mewn fersiynau Saesneg a Chymraeg o Choir Practice, fe'i gwelwyd yn How Green Was My Valley deirgwaith. A chynhyrchiad arall y bu ynghlwm ag ef bedair gwaith oedd y ddrama i leisiau gan Dylan Thomas, Under Milk Wood. Ymddangosodd yn nghynyrchiadau radio Douglas Cleverdon o'r ddrama hon ym 1954 a 1963, yna yn y ffilm a gyfarwyddwyd gan Andrew Sinclair ym 1972, ac eto wedyn yng nghynhyrchiad radio George Martin, cynhyrchydd y Beatles, ym 1987.
Nid esgeulusodd ei phrofiad theatrig dros drigain mlynedd o berfformio ychwaith. Er enghraifft, ymddangosodd dan gyfarwyddyd Rudolph Cartier yn Gaslight yn yr English Speaking Theatre yn Vienna ym 1976, yn Pygmalion yn y Shaw Theatre yn 1978, ac yn nrama Chekhov, Uncle Vanya, yn y Crucible Theatre, Sheffield, gyda John Gregson a Lana Morris ym 1994.
Ond gwaith teledu aeth â'i bryd rhwng y 1970 a'r 1990au yn bennaf, a hynny'n rhannol gan y llwyddai i ganfod gwaith rheolaidd yn agosach i'w chartref yng Nghaerdydd, diolch i gryfder y BBC mewn dramâu teledu ar y pryd. Ymddangosodd dros y blynyddoedd mewn cyfresi megis Z Cars, Dixon of Dock Green, Owen M.D., Dad's Army, a chyfrannodd yn sylweddol i'r dasg o boblogeiddio arbrawf blaengar y cyfarwyddwr John Hefin a'r BBC wrth iddynt gynhyrchu'r opera sebon Gymraeg gyntaf, Pobol y Cwm (BBC Cymru Wales, 1974-). Llwyddodd, yng nghwmni Harriet Lewis, Charles Williams, Islwyn Morris, Gillian Elisa Thomas, Lisabeth Miles, a llawer mwy, i blannu'r cynhyrchiad yn gadarn yng nghalonnau'r Cymry a'i gwneud yn opera sebon fwyaf hirhoedlog y BBC. Trwy gyflwyno'r cymeriad Bella Davies i'r genedl, rhoes bleser i filoedd a fwynhâi'r cecru a'r pwdu a ddigwyddai rhyngddi hi a chymeriadau eraill Cartref Henoed Bryn Awelon.
Parhaodd ei chydweithio ffrwythlon â John Hefin yn y cynyrchiadau trawiadol A Bus to Bosworth (cynh./cyf. John Hefin, BBC, 1976), Off to Philadelphia in the Morning (cynh./cyf. John Hefin, 1978), sef addasiad i'r sgrin gan Elaine Morgan o gyfrol Jack Jones ar Joseph Parry, y cerddor o Ferthyr, a The Life and Times of David Lloyd George (cyf. John Hefin, BBC, 1981). Yn y cyfnod hwn hefyd dychwelodd at How Green Was My Valley, ond nid fel y Fam Gymreig y tro hwn, ond yn hytrach fel howscipar snobyddlyd a phiwis (cynh. Martin Lisemore, cyf. Ronald Wilson ar gyfer y BBC, 1975-6).
Ar sail ei chyfraniad aruthrol i'r celfyddydau, derbyniodd OBE ym 1968 a'r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990, gan fabwysiadu'r enw gorseddol 'Rachel o'r Allt'. Derbyniodd wobr Cyfraniad Oes BAFTA Cymru ym 1991 ac fe'i gwnaed yn Gymrodor Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Caerdydd ym 1993. Estynnwyd Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru Abertawe iddi ym 1995 ond, yn sgil cwymp yn ei chartref, bu farw yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ar 8 Chwefror 1995 cyn derbyn yr anrhydedd hwnnw. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn Eglwys Annibynnol Minny Street ac yna yn Amlosgfa Thornhill ar 16 Chwefror 1995.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-02-08
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.