ELLIS, JOHN GRIFFITH (1723/4 - 1805), pregethwr Meth.

Enw: John Griffith Ellis
Dyddiad geni: 1723/4
Dyddiad marw: 1805
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Meth.
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Griffith

Bedyddiwyd 2 Chwefror 1723/4 yn Nhudweiliog (Sir Gaernarfon). Pan oedd yng ngwasanaeth William Griffith, Cefn Amwlch, cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn Nhywyn, Tudweiliog, yn 1741. Cynrychiolodd seiadau de Sir Gaernarfon mewn sasiwn yn Llanbedr Pont Steffan, Chwefror 1748, ac yno, er iddo wrthwynebu i ddechrau, perswadiwyd ef i barhau i gymuno yn yr eglwys wladol. Apwyntiwyd ef yn arolygwr y seiadau, ac, fel y cyfryw, anfonodd adroddiad i Howel Harris o Benllech, 20 Ebrill 1748, ond mewn ôl nodyn, dywedir na fyddai yn sasiwn Caerfyrddin y mis Mai canlynol - awgrym bod rhywbeth o'i le. Credir i Ellis gael ei ddisgyblu gan Harris yng Ngorffennaf 1749. Ond yr oedd yn bresennol gyda William Griffith o Gefn Amwlch yn y Garth, Brycheiniog, yn Nhachwedd 1748, a bu'n pregethu yno bob nos yn ôl William Jones, Trefollwyn (1718 - 1773?. Siarl Marc oedd arolygwr seiadau de sir Gaernarfon yn 1750; mae'n bosibl felly mai Ellis oedd y gwr a drowyd allan gan Harris yn 1749. Ond yr oedd yn pregethu eto yn 1751, fel y dywed Thomas William o Eglwys Ilan mewn adroddiad i Harris; yr oedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr capel Ty Mawr a apwyntiwyd yn 1752; adroddir hefyd iddo bregethu yn y sasiwn gyntaf yn Sir Gaernarfon, a gynhaliwyd yng Nghlynnog, cyn 1769.

Yn ddiweddarach, oherwydd ei hoffter o ddiod, gwrthgiliodd am lawer blwyddyn, ond gorchfygodd y gwendid hwn, a cheir ef yn pregethu eto yng Nghaergeiliog yn 1788 a 1796 ac yn Lerpwl yn 1799 ac yn 1800 gyda Thomas Charles, Thomas Jones, Dinbych, a Richard Lloyd, Biwmaris. Nodir gan John Elias iddo fod yn bresennol yn ei gyfarfod-seiadol cyntaf yn 1793 yn Hendre Howel, Penmorfa. Yr oedd yn ddiamau yn wr o allu, a disgrifir ef felly gan wyr a'i adnabu, fel Robert Jones Rhos-lan. Yr oedd ei wrthgiliad ar y pryd, yn ergyd drom i Fethodistiaeth gogledd Cymru. Bu farw yn 1805 (claddwyd ef yn Nefyn, 19 Medi).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.