Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

PULESTON (TEULU), Emral, Plas-ym Mers, Hafod-y-wern, Caernarfon, etc.

Disgynnai'r Pulestoniaid o Syr ROGER DE PULESTON, brodor o drefgordd Puleston neu Pilston ger Newport yn Sir Amwythig, a gafodd dir gan Edward I yn Emral ym Maelor Saesneg, ac a ymsefydlodd yno cyn 1283. Yr oedd yn siryf Môn, 1284-94, ac yn brif swyddog cyllid dros Wynedd. Yn rhinwedd ei swydd, ef oedd yn gyfrifol am gasglu'r dreth ar eiddo symudol ('moveables') y Cymry, a esgorodd ar wrthryfel Madog. Yn 1294, yn ystod yr helynt, cymerwyd Puleston gan y gwrthryfelwyr a'i grogi ar gapan ei dŷ ei hun yng Nghaernarfon. Yr oedd ei fab, RICHARD DE PULESTON, yn siryf Sir Gaernarfon yn 1286. Ymbriododd ROBERT PULESTON, drachefn, gorŵyr y Richard hwn, â Lowri, chwaer Owain Glyn Dŵr, a chymerodd ran yn y gwrthryfel.

Pennaeth y teulu yn ystod rhan olaf y 16eg ganrif ydoedd ROGER PULESTON; ymaelododd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, yn 1582 pan yn 16 oed; ac yn 1585 aeth i'r Inner Temple i astudio'r gyfraith. Bu'n aelod seneddol dros sir Fflint, 1588-9 a 1604-11, a thros sir Ddinbych, Chwefror-Ebrill 1593. Bu iddo ran yn yr helynt yn ystod ac wedi etholiad 1588 yn sir Ddinbych, pan enillodd ei fab-yng-nghyfraith, John Edwards yr ieuengaf o'r Waun, y sedd oddi ar William Almer, Pant Iocyn. Haerai Almer iddo dderbyn cam ar law'r siryf Owen Brereton, ac mewn achos a ddug gerbron Llys y Star Chamber, cyhuddai Brereton ac amryw o bleidwyr Edwards, gan gynnwys Roger Puleston, o gam-ymddwyn yn yr etholiad. Priododd Puleston Jane, merch ac aeres William Hanmer o Hanmer; urddwyd ef yn farchog 28 Awst 1617, a bu farw 17 Rhagfyr 1618.

Un arall o Bulestoniaid Emral a fu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir y Fflint ydoedd Syr ROGER PULESTON (1663 - 1697), aelod seneddol dros y sir, 1689-90, a thros fwrdeisdref y Fflint 1695-7. O'r un cyff, drachefn, oedd y JOHN PULESTON (bu farw 1659) a benodwyd gan y Senedd yn farnwr yn llys y Common Pleas yn 1649; i'w feibion ef y bu Philip Henry yn hyfforddwr am dymor.

Yn ystod hanner cyntaf y 15fed ganrif sefydlwyd cangen o'r teulu yn y Bers ger Wrecsam, a chyn diwedd y ganrif honno daethai Hafod-y-wern yn yr un ardal i feddiant y Pulestoniaid trwy briodas JOHN PULESTON, Plas-ym-Mers, ŵyr y Robert a Lowri uchod, ag Alswn, merch ac aeres Hywel ap Ieuan ap Gruffydd o Hafod-y-wern. Rhestrir dau o'r Pulestoniaid hyn fel gwrthodwyr Catholig ('recusants') yng nghofnodion y Sesiwn Fawr a chyfnod Elisabeth, sef EDWARD PULESTON o Hafod-y-wern, yn 1585 a 1588, ac ANNE, gwraig John Puleston o Blas-ym-Mers, yn 1587. FRANCES, merch Philip Puleston (bu farw 1776), oedd yr olaf o deulu Hafod-y-wern; priododd hi Bryan Cooke o Owston, swydd Efrog, yn 1786 (gweler Davies-Cooke, Gwysaney).

Is-gangen o Bulestoniaid Hafod-y-wern oedd honno a ffynnai yng Nghaernarfon am ran o'r 16eg ganrif, ac a sylfaenwyd gan fab hynaf John Puleston ('Hen'), Syr JOHN PULESTON (bu farw 1551), a oedd yn siryf sir Ddinbych, 1543, a Sir Gaernarfon, 1544; aelod seneddol tros Gaernarfon, 1541-4, a sir Gaernarfon, 1545-7 a 1547-51; siambrlen Gwynedd, 1547; a chwnstabl castell Caernarfon, 1523-51. Priododd, (1), Gaynor, merch Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd o Lynllifon, a (2), Sioned, merch Meredydd ap Ieuan ap Robert o Gesaill Gyfarch a Gwydir. O HUGH PULESTON, ei fab o'r ail briodas, y disgynnodd Pulestoniaid Llwyn-y-cnotiau ger Wrecsam. Daeth stad Llwyn-y-cnotiau yn eiddo i Thelwaliaid Plas-y-ward wedi marw John Puleston yn 1673.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.