Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

PARRY, AP HARRY, APARRY, APPAREY, BLANCHE (1508? - 1590), gweinyddes i'r frenhines Elisabeth

Enw: Blanche Parry
Dyddiad geni: 1508?
Dyddiad marw: 1590
Rhiant: Alice Parry (née Milbourne)
Rhiant: Henry Parry
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1508 neu 1507 yn Newcourt, Bacton, yn nyffryn 'Dore' yn Euas (Ewias) yn sir Henffordd, yn ferch i Henry Parry a'i wraig Alice. Gwelir ach y teulu mawr a changhennog hwn yn Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iv, 2-3; canodd Guto'r Glyn (200-4 a 216-20 yn arg. Ifor a J. Ll. Williams) i Harri Ddu o Euas, hendaid Blanche Parry; yr oedd ei thaid, Miles ap Harri, yn briod â Joan, un o ferched Syr Harri Stradling o Sain Dunwyd ym Morgannwg, a daliai'r Parrïod a'r Stradlingiaid i arddel y berthynas - a chan mai chwaer i William Herbert, iarll Pembroke, oedd mam y Joan uchod, daw'r Herbertiaid hwythau i mewn i'r clwm hwn o deuluoedd. Heblaw hyn, yr oedd cyfathrach rhwng y Parrïod a Seisylliaid Allt-yr-ynys, lle nad yw nepell o Bacton; yr oedd y William Cecil a ddaliai i fyw yn Allt-yr-ynys yn gyfaill mebyd i Blanche Parry ac yn briod ag Olive Parry o Poston, disgynnydd i frawd iau Harri Ddu o Euas. Arddelid y berthynas hyd yn oed gan William Cecil (Burghley wedyn) - sonia Blanche Parry amdano ef fel 'kinsman' (nid y term penagored 'cousin'), ac ef a ddrafftiodd ei hewyllys hi ac a oedd yn brif ysgutor. Ac yr oedd Fychaniaid a Morganiaid Gwent ac Euas ac Ystradyw wedi ymbriodi â'r Parrïod. Ar y llaw arall nid ymddengys fod fawr sail i'r dyb mai un o'r teulu oedd y William Parry a ddienyddiwyd fel bradwr yn 1585; prin, drachefn, fod pais arfau Richard Parry, esgob Llanelwy, yn brawf digonol o'i gyswllt â'r teulu (i'r gwrthwyneb, gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 387); a chwbl ddisail, wrth gwrs, yw'r hen chwedl fod Thomas Parry, 'corffrwr' y frenhines, yn 'dad' (weithiau'n 'wr') i Blanche - yn wir, Vaughan (o Dre'r Twr) oedd ei wir gyfenw ef; fe allai er hynny fod o fewn y nawfed ach. Codwyd melin a phandy gan rai ar ei 'pherthynas' â'r sêr-ddewin John Dee; mewn gwirionedd, ni chyfeiria Dee ati ond teirgwaith - gwir iddi weithredu (trwy ddirprwy) fel mam-fedydd i un o'i blant, a'i fod y pryd hynny'n ei galw'n 'cousin,' ond ni lwyddwyd i egluro'r berthynas na llai fyth i ddarganfod sail i'r stori mai trwy'r berthynas dybiedig hon yr ymwthiodd Dee i lawes Elisabeth. Yn wir, odid nad oes tuedd ormodol i fawrhau dylanwad Blanche Parry - gellid meddwl ar rai mai hi oedd yn llywio'r deyrnas yn enw ei meistres.

Olrheiniwyd troeon gyrfa Blanche Parry'n fanwl - a chwalu llawer chwedl amdani - gan C. A. Bradford. Y mae'n bur sicr mai 'Lady Herbert of Troy,' ei chares, a'i dug gyntaf i'r llys brenhinol. Dywed hi ei hunan iddi weld Elisabeth 'yn ei chrud,' ond yr oedd y dywysoges yn 3 oed (1536) cyn i Blanche ddyfod yn weinyddes swyddogol iddi. Yn 1558, dyrchafwyd hi'n 'ail weinyddes,' ac yn 1565 yn 'brif weinyddes'; ond ni chafodd erioed yr un o'r swyddau 'pendefigaidd' yn y llys. Eithr yr oedd ei swydd yn broffidiol iawn - cyflog, cynhaliaeth anrhydeddus, rhoddion, grantiau o freiniau ac yn wir o stadau, cymynroddion diolchgar am gymwynasau. Digwydd ei henw'n hynod fynych yn y recordiau swyddogol, a chyfeirir ati yn llenyddiaeth y cyfnod. Tua diwedd ei hoes aeth bron yn ddall. Bu farw, yn ddi-briod, 12 Chwefror 1589/90. Bwriadai unwaith gael ei chladdu yn Bacton, a chododd feddrod yno; ond newidiodd ei meddwl, ac yn S. Margaret's, Westminster, y claddwyd hi - gwelir ei beddrod yno heddiw. Y mae stori gymysglyd ddarfod claddu ei hymysgaroedd (ei chalon, bryd arall) yn y beddrod sydd i'w weld yn Bacton. Yn 1811 mynnodd Mrs. Burton, priod ficer Atcham gerllaw Amwythig a disgynnydd o deulu Newcourt, gael symud ffenestr liw goffa Miles ap Harri o Bacton i Atcham, a gosod yno hefyd ffenestr goffa i Blanche Parry. Gadawodd Blanche gymynroddion ac elusennau helaeth, ac argraffwyd ei hewyllys gan Sir Thomas Phillipps ym 1845. Gwyddys mai ceidwadol oedd ei golygiadau crefyddol, a thuedda Bradford i farnu ei bod hi o'r Hen Ffydd.

Daw Blanche Parry i mewn, ar ddamwain megis, i hanes sgrifennu hanes Cymru. Yr oedd Syr Edward Stradling, ar awgrym a roes Syr William Cecil iddo, wedi sgrifennu traethawd ar goncwest Normanaidd Morgannwg, a'i anfon i Cecil. Y mae'n amlwg i Cecil ei roi i Blanche Parry - efallai i'r frenhines, oblegid Blanche oedd ceidwad ei llyfrau. Pan oedd David Powel, ficer Rhiwabon, yn Llundain yn trefnu (ond odid) i argraffu ei lyfr, rhoes Blanche y traethawd iddo ef - disgrifia Powel 'the right worshipfull Mistres Blanch Parry' fel gwraig hynod dda ei chalon at Gymru a hynod, barod i hyrwyddo llwydd ei henwlad. Argraffodd yntau'r traethawd yn ei grynswth yn ei Historie of Cambria, 1584 - gweler G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 197-9.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.