Cywiriadau

PRICE, THOMAS GWALLTER ('Cuhelyn '; 1829 - 1869), newyddiadurwr a bardd yn U.D.A.;

Enw: Thomas Gwallter Price
Ffugenw: Cuhelyn
Dyddiad geni: 1829
Dyddiad marw: 1869
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr a bardd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 23 Rhagfyr 1829 yn sir Forgannwg. Wedi iddo ymfudo i U.D.A. bu am gyfnod yn Minersville, Pa. Bu hefyd yng Nghalifornia adeg ' chwilen yr aur '; yno bu'n dysgu elfennau barddoniaeth i Taliesin Evans ('Tal o Eifion') ac yn anfon rhai o gynhyrchion ei ddisgybl i John Jones ('Talhaiarn') yng Nghymru. Daeth yn ôl i Gymru yn 1855 eithr dychwelodd i'r America ac yn ystod 1856 bu ef a L. W. Lewis ('Llew Llwyfo'), yn cyd-ddiddori llawer o Gymry America - ' Cuhelyn ' yn darlithio ar rai o feirdd Cymru a ' Llew Llwyfo ' yn datganu alawon Cymreig. Eithr fel newyddiadurwr y daeth i'r amlwg yn U.D.A. Bu'n olygydd Y Gwron Democrataidd, 1856, newyddiadur a gychwynnwyd (yn New York) at wasanaeth democratiaid Cymreig yr America; bu helynt rhwng y newyddiadur hwn a'r Drych oherwydd i'r Gwron awgrymu bod Y Drych yn ffafrio'r fasnach mewn caethion. Ar 10 Ionawr 1857 cychwynnodd 'Cuhelyn' Y Bardd Newydd Wythnosol (Efrog Newydd), gyda llu o lenorion Cymru yn ohebwyr iddo - 'Eben Fardd,' Thomas Stephens (Merthyr Tydfil), 'Talhaiarn,' 'Cynddelw,' 'Llawdden,' 'Dewi Wyn o Esyllt,' 'Islwyn,' 'Aneurin Fardd,' 'Nathan Dyfed,' 'Nefydd,' 'Eiddil Ifor,' 'Gwilym Teilo,' etc. Cyhoeddwyd yn hwn hanes a rhai o weithiau Dafydd ap Gwilym. Yn 1867 golygodd Y Ford Gron. Bu'n golygu The Workman's Advocate, a cheir ef, yn 1857, yn berchennog y Minersville Bulletin. Pa fu John Jones, Llangollen, dadleuydd, farw yn 1856 bu ' Cuhelyn ' yn ei amddiffyn yn erbyn enllibion y Wasg. Argraffwyd yn y Wasg Gymreig yn America lu o englynion a gyfansoddodd ' Cuhelyn.' Bu farw 12 Mai 1869 yn New York.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

PRICE, THOMAS GWALLTER ('Cuhelyn')

Yr oedd Price yng Nghaliffornia erbyn 1858 ac ymfudodd i Victoria, Ynys Vancouver, ddechrau 1859 gan adael ei wraig i werthu'r busnes. Wedi cyfnod eto yng Nghaliffornia yn 1860 cyrhaeddodd ef a'i wraig y Cariboo, tua 300 milltir i'r gogledd o Vancouver, yn 1862 (bu'n dysgu elfennau barddoniaeth i ' Tal o Eifion ' yno yn 1863) a dychwelodd i'r dwyrain yn 1865. Bu farw 13 Mai 1870 (Y Drych, 26 Mai 1870, 11 Awst 1870). Gweler Alan Conway, ' Welsh miners in British Columbia ', British Columbia Historial Quarterly (1957-58), 51-74.

Awdur

  • Gwilym Ivor Lumley

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.